Paperback / softback
Description
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol.
Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig - ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus.
Mae'r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i'r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes.
Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a'i syniadau arloesol ynghylch rhywedd. Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy'n berthnasol iawn i'w hanes.
Yng ngoleuni'r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o'i bywyd a'i dylanwad.
Information
-
Only a few left - usually despatched within 24 hours
- Format:Paperback / softback
- Pages:256 pages, No
- Publisher:University of Wales Press
- Publication Date:15/04/2023
- Category:
- ISBN:9781837720255
£19.99
£16.79
Information
-
Only a few left - usually despatched within 24 hours
- Format:Paperback / softback
- Pages:256 pages, No
- Publisher:University of Wales Press
- Publication Date:15/04/2023
- Category:
- ISBN:9781837720255