Please note: In order to keep Hive up to date and provide users with the best features, we are no longer able to fully support Internet Explorer. The site is still available to you, however some sections of the site may appear broken. We would encourage you to move to a more modern browser like Firefox, Edge or Chrome in order to experience the site fully.

Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen' : Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990, Paperback / softback Book

Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen' : Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990 Paperback / softback

Part of the Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig series

Paperback / softback

Description

Dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes.

Mae'n astudiaeth gymharol sy'n dod a gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd - gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse.

Mae'n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne.

Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am 'aralledd' - term sy'n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i'r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol.

Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd a themau megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma'r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol - cymdeithas lle y mae'r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir a seilio hunaniaeth Gymreig ar allu'r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae'r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.

Information

Information

Also in the Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig series  |  View all