Please note: In order to keep Hive up to date and provide users with the best features, we are no longer able to fully support Internet Explorer. The site is still available to you, however some sections of the site may appear broken. We would encourage you to move to a more modern browser like Firefox, Edge or Chrome in order to experience the site fully.

Gras, Gobaith a Gogoniant : Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan, Paperback / softback Book

Gras, Gobaith a Gogoniant : Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan Paperback / softback

Paperback / softback

Description

Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd.

Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth.

Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig.

Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw.

Yn ogystal ? thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.

Information

£16.99

 
Free Home Delivery

on all orders

 
Pick up orders

from local bookshops

Information